
Practical Training Ltd

Providing accredited health & safety training in line with BS 4163: 2021.
@rhystraining



Croeso i Practical Training Ltd. Mae gen i brofiad helaeth ym myd addysg ac rwy’n falch i allu cynnig hyfforddiant briodol i addysgwyr mewn ffordd greadigol ac ymarferol.
Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch
Mae pwyslais mawr ar ddiogelwch yr unigolyn ac eraill pan yn defnyddio offer. Fel Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch D&T sydd wedi’i gofrestru, mae’r cyrsiau achrededig y cynigaf ar ddatblygiad proffesiynol yn ffordd o sicrhau bod gan staff yr hyfforddiant briodol ar gyfer gweithio yn y byd Dylunio a Thechnoleg.
Trwy gyflwyno pynciau ym meysydd llythrenedd a rhifedd mewn modd creadigol, mae’n bosib annog a datblygu hyder pobl ifanc. Rwy’n cydweithio gyda nifer o sefydliadau amrywiol ac yn teilwra’r ddarpariaeth yn ôl y gofynion gan ddefnyddio offer a deunyddiau amrywiol.
Porwch drwy’r wefan am rhagor o wybodaeth, neu gysylltwch am fanylion pellach.
Rhys Thomas - Cyfarwyddwr





